Find:

  • |
  • |

Ysbyty Spire Caerdydd

Yn Ysbyty Spire Caerdydd, rydym yn cynnig gofal ysbyty preifat cyflawn i gleifion o Gaerdydd, o Gasnewydd, o Abertawe a phob rhan o Gymru.

Mae ein gwasanaethau ar gael i bawb – pwy bynnag sydd yn eich yswirio, boed BUPA, AXA PPP, Aviva neu gwmni yswiriant iechyd preifat arall. Os ydych chi’n talu am eich triniaeth eich hun, gallwn gynnig triniaeth unigol preifat yn Ysbyty Spire Caerdydd gan gytuno ar bris penodol rhag blaen.

Gellir cyrraedd yr ysbyty yn hawdd ar y ffordd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mae yna adnoddau parcio am ddim.  Mae lle wedi ei neilltuo i yrwyr anabl a mynediad hawdd i bob rhan o'r ysbyty.

Rydym yn falch o’n gallu i roi gofal clinigol o ansawdd uchel mewn amgylchedd sydd yn ymlacio ac yn ysgogi gwellhad buan.

Mae ein gwasanaethau meddygol a llawdriniaethol yn cynnwys gwasanaeth trin canser y fron a achredwyd gan BUPA, y prif gwmni yswiriant preifat,  fel canolfan rhagoriaeth, cymorth ffrwythloni, llawdriniaeth colorectal, dermatoleg, CTG, gastroenteroleg, gynecoleg, llawdriniaeth y llygaid, (llawdriniaethau cyflym ar bilen y llygad), meddygaeth chwaraeon ac wroleg.

Ceir offer addas yng nghanolfan orthopedig yr ysbyty i wneud llawdriniaethau modern ar y cymalau, gan gynnwys ailosod y glun, triniaeth clun Birmingham, ailosod y benelin a thriniaeth cymalwst.

Cynigir llawfeddygaeth gosmetig sy'n cynnwys helaethiad bronnau, lleihad bronnau, bronnau, newid gwedd yr wyneb, newid siâp y trwyn, llawdriniaeth ar yr amrannau, abdominoplasty (twc yn y bol) a sugno bloneg (liposuction).

Amcan ein hadran ffisiotherapi yw cynnig triniaeth gyflym ac effeithiol i helpu gwella ar ôl niwed corfforol neu adferiad yn sgil llawdriniaeth. Mae rhaglenni arbenigol ar gael ar gyfer poen cefn, poen gwddf, niwed chwaraeon, a phroblemau a symudoledd y breichiau a'r coesau.

Rhoddir gwasanaeth adfer i chwaraewyr amatur a phroffesiynol, gan gynnwys ymgynghoriad cyflym gydag ymgynghorydd orthopedig. Yn ein hadran radioleg gellir cael gwasanaethau sgan MRI, sgan CT.

Mae gyda ni yn Ysbyty Spire Caerdydd Ganolfan BUPA Wellness sydd yn darparu amrywiaeth o asesiadau iechyd.

Apwyntiadau 029 2073 5515
   
Ymholiadau hunan-daliadau eraill 029 2054 2509
  Online enquiry
   
Peledr X a ymholiadau sgan 029 2054 2755
   
Ffisiotherapi a triniaeth niwed chwaraeon 029 2054 2745
   
Ymholiadau anfoneb a thaliad 0845 601 0279
  Email: payonline@spirehealthcare.com
 
Switsfwrdd yr ysbyty 029 2073 5515
  Email: cservice-cd@spirehealthcare.com
   
Pennaeth gwasanaethau clinigol Sarah Lloyd-Davies
Rheolwr cyffredinol Nicola Amery

Find a Hospital

Select from the menu above or enter a postcode below
Click on the map, select from the menu above or enter a postcode

Find by Postcode

Please enter details below to find your nearest hospital

     

Back to map

Find a Consultant

Use one or more of the options below to search for relevant consultants, then click on each name to read their detailed Spire profiles.

Name

Find a Treatment, Test or Scan

Select from the drop down list, enter a keyword, or use our interactive body map to locate treatments and procedures for each part of the body.

OR

Keyword

Spire Cardiff Hospital

Click on an image below to view full-sized

  • Spire Cardiff Hospital
  • Consultation at Spire Cardiff Hospital
  • One of our reception areas at Spire Cardiff Hospital
  • Physiotherapist at work
  • Patient in her room
  • Fluoroscopy suite
  • Our ACAD suite

© Spire Healthcare Limited (2010)