Yn Ysbyty Spire Caerdydd, rydym yn cynnig gofal ysbyty preifat cyflawn i gleifion o Gaerdydd, o Gasnewydd, o Abertawe a phob rhan o Gymru.
Mae ein gwasanaethau ar gael i bawb – pwy bynnag sydd yn eich yswirio, boed BUPA, AXA PPP, Aviva neu gwmni yswiriant iechyd preifat arall. Os ydych chi’n talu am eich triniaeth eich hun, gallwn gynnig triniaeth unigol preifat yn Ysbyty Spire Caerdydd gan gytuno ar bris penodol rhag blaen.
Gellir cyrraedd yr ysbyty yn hawdd ar y ffordd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mae yna adnoddau parcio am ddim. Mae lle wedi ei neilltuo i yrwyr anabl a mynediad hawdd i bob rhan o'r ysbyty.
Rydym yn falch o’n gallu i roi gofal clinigol o ansawdd uchel mewn amgylchedd sydd yn ymlacio ac yn ysgogi gwellhad buan.
Mae ein gwasanaethau meddygol a llawdriniaethol yn cynnwys gwasanaeth trin canser y fron a achredwyd gan BUPA, y prif gwmni yswiriant preifat, fel canolfan rhagoriaeth, cymorth ffrwythloni, llawdriniaeth colorectal, dermatoleg, CTG, gastroenteroleg, gynecoleg, llawdriniaeth y llygaid, (llawdriniaethau cyflym ar bilen y llygad), meddygaeth chwaraeon ac wroleg.
Ceir offer addas yng nghanolfan orthopedig yr ysbyty i wneud llawdriniaethau modern ar y cymalau, gan gynnwys ailosod y glun, triniaeth clun Birmingham, ailosod y benelin a thriniaeth cymalwst.
Cynigir llawfeddygaeth gosmetig sy'n cynnwys helaethiad bronnau, lleihad bronnau, bronnau, newid gwedd yr wyneb, newid siâp y trwyn, llawdriniaeth ar yr amrannau, abdominoplasty (twc yn y bol) a sugno bloneg (liposuction).
Amcan ein hadran ffisiotherapi yw cynnig triniaeth gyflym ac effeithiol i helpu gwella ar ôl niwed corfforol neu adferiad yn sgil llawdriniaeth. Mae rhaglenni arbenigol ar gael ar gyfer poen cefn, poen gwddf, niwed chwaraeon, a phroblemau a symudoledd y breichiau a'r coesau.
Rhoddir gwasanaeth adfer i chwaraewyr amatur a phroffesiynol, gan gynnwys ymgynghoriad cyflym gydag ymgynghorydd orthopedig. Yn ein hadran radioleg gellir cael gwasanaethau sgan MRI, sgan CT.
Mae gyda ni yn Ysbyty Spire Caerdydd Ganolfan BUPA Wellness sydd yn darparu amrywiaeth o asesiadau iechyd.